Erbyn Meddwl… Auto-Tune -.-

Vocal-Recording

Term sy’n gyfarwydd i ni gyd… Auto Tune. Ond o lle mae o di dod? Be ydi “bod mewn tiwn”? Pam ma’ angan Auto Tune? Ag ydi o wedi newid y busnes cynhyrchu cerddoriaeth am byth?

Wrth chwarae nodyn ar y piano neu’r gitar, gan gymryd eu bod nhw wedi cael eu tiwnio’n iawn, mi fydd eich nodyn chi mewn tiwn drwy’r adeg. Un nodyn, un swn… Ond hefo llais (neu offerynnau chwyth a phres weithia’ hefyd), dydy o ddim mor syml! Dyma pam ‘ma auditions yr X Factor mor ddoniol, achos bo’ hannar nhw ddim yn hitio’r nodyn yn iawn.

Ond yda chi erioed wedi meddwl… Be ydy bod mewn tiwn? Pwy ddudodd bo un swn mewn tiwn a’r llall ddim?

Dio’n syml, Geth? Na.

Ti’n dallt o’n iawn? Na.

Ond ti am drio egluro eniwe? Yndw :)

Ma gan bob nodyn frequency ei hun. Hynny ydy, ma bob swn yn creu tonnau (sound waves), a’r frequency ydy faint o’r rheiny sy’n pasio bob eiliad.

Dal efo fi?

Ma hyn yn cael ei fesur mewn “hertz” (hz). Felly mae 440 hz yn golygu bo na 440 ton o sŵn yn pasio bob eiliad. Pam dewis 440? Achos mi neith hyn roi sŵn y nodyn “A”. :)

piano

Yr ucha’ di’r frequency, yr ucha’ di’r sŵn! Felly, os yda ni’n rhoi dau swn yn erbyn ei gilydd, os fedra ni ffeindio’r ddau frequency iawn, fedra ni gal harmoni! A wedyn adio trydydd un i ga’l cord.

Ma’r glust ‘di arfar clwad tri nodyn sy’n creu major chord, a hynny oherwydd bod frequencies y noda’n gneud sŵn “neis” wrth eu rhoi nhw efo’i gilydd! ( http://en.wikipedia.org/wiki/File:Major_triad_on_C.mid ) Cliciwch ar y linc i glwad un!

Ond, ‘da ni yn y Gorllewin mond yn cymryd rhain fel synau “neis” achos dyna ‘da ni di arfar efo nhw! Ma na ganeuon Affricanaidd ag Asiaidd sydd ddim yn defnyddio’r un perthynas o ran frequencies a felly’n creu synau sy’n swnio’n od i ni, fel ma’n synau ni’n swnio’n “od” iddyn nhw.

Reit. So dyna ddiwadd ar y ddarlith.

Pam Auto Tune??

Wel, os ma pob offeryn yn y band yn chwara mewn tiwn, mi all canwr sydd chydig allan o diwn swnio’n uffernol. Hynny ydy (gan bo ni’n experts rwan)… os ma’r gitar yn chwara’ A yn 440Hz, a’r canwr yn cal dwrnod gwael ac yn canu rwbath fel 449hz, mi fedrith o swnio’n afiach gan ei fod o mor agos… ond ddim cweit yna! Felly, pwy sy’n dod i mewn ‘fama? AUTO TUNE. Os ma’r sŵn yn cael ei yrru drwy Auto Tune, mi neith o gl’wad bod y canwr allan ohoni a newid o i fod yn 440Hz. So da ni mewn tiwn, a pawb yn hapus?

Weeeel… Dwi ddim.

Cyn 1997, mi odd bob canwr, yn fyw a mewn stiwdio, yn gorfod canu mewn tiwn i swnio’n dda. Odd hyn yn gamp ag yn swnio’n brilliant  os o’dd o’n cael ei ‘neud yn iawn… Odd pobol yn talu pres da i fynd i gl’wad canwr enwog yn canu. Mi o’dd o’n dangos pwy odd yn gallu canu, a pwy do’dd ddim…..

Er enghraifft, Art Garfunkel ar “Bridge Over Troubled Water”. Anhygoel. Neu r’wbath gan rywun fel Aretha Franklin. Ma nhw’n gallu canu petha’ mor gymhleth, tra’n cadw’r peth mwya syml, sef cadw mewn tiwn. Ond eto, yn wyddonol, dydy bob nodyn ddim mewn tiwn perffaith! Ond ma nhw ddigon agos i ‘neud i’r glust feddwl hynny. Dydy hi’m yn BOSIB canu bob nodyn y frequency iawn.

Dyna pam ma pawb sy’n cael eu rhoi drwy Auto Tune yn swnio’n hollol robotic. Er eu bod nhw mewn tiwn… ma ‘nhw ormod mewn tiwn.

Ma’r gamp ‘di mynd achos ma rhywun sy’n anhygoel yn canu, yn mynd i swnio o’r un safon a rhywun sydd methu canu o gwbl.

Ma’ hefyd yn tynnu’r emosiwn allan ohono fo, a ma neges cân yn diflannu wedyn!

O’s na r’wbath da am Auto Tune, felly?

Wel, oes. Ma’n galluogi i rywun roi effect eitha cŵl… Fel Cher yn 1997. Hi odd yr artist llwyddiannus cynta’ i ddefnyddio AutoTune ar “Believe”… Gwaith ymchwil y dydd… Gwrando ar Believe. Ma will.i.am di’w ddefnyddio fo hefyd. Ma’r swn yn hawdd iawn i’w ‘nabod! A hefyd, dwi’n hoff iawn o’r gân Hide and Seek gan Imogen Heap (rhan ohono fo wedi ca’l ei samplo gan “Whatcha Say” Jason Derulo). Ma hwnnw wedi ei recordio drwy “Vocoder”… sydd o’r un syniad ag Auto Tune, ma hi’n canu un nodyn i mewn wrth chwarae cord ar y keyboard, a ma’n swnio fel ei bod hi’n canu hwnnw. Ma hwnnw’n dda achos ei fod o’n glyfar ac yn gerddorol.

Ond eniwe, rant drosodd. Dim ond rhaid gwrando ar “Diamonds On The Soles Of Her Shoes” gan Paul Simon i gl’wad côr o Dde Affrica a Paul ei hun yn harmoneiddio’n berffaith, a hynny wedi cymryd llawer o waith. Mewn gwirionedd, ma’r Affricanwyr wedi perffeithio’r harmonia’ anhygoel dros y blynyddoedd heb sôn am unrhyw Auto Tune, a ma’n bechod gweld gwaith a thraddodiad yn cael ei ‘neud yn r’wbath masnachol, heb ddim bywyd, sydd yn wir am rhan fwya’ o bob dim yn ddiweddar.

I fi, ma harmoniau da mewn tiwn wedi cael eu gwneud gan bobl go iawn fel mynd i siop fach a ca’l cynnyrch da, a ca’l chat efo’r ddynas tu ol i’r till… a AutoTune fel prynu tin beans Tesco Value a cal dyrtan gin ryw hen ddynas yn trio dallt y till yn Tesco Bangor. Ond eto, mond fi di hynna!

Ciao!

G.

About these ads
Tagged

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: